Atebwch y chwe chwestiwn yma i'ch helpu i ddeall meysydd mewn rhifedd y gallech fod eisiau eu gwella.
Yn y cwestiynau yma:
does dim marc pasio neu fethu
mae yna opsiwn aml-ddewis ar gyfer eich ateb
Fe ddylai hi gymryd rhyw bum munud ichi gwblhau'r cwestiynau i gyd a chewch ddefnyddio cyfrifiannell os ydych chi’n dymuno.
Beth yw 7:20 pm ar y cloc 24 awr?
Yn yr archfarchnad, rydych chi eisiau prynu 3 brechdan, 2 deisen ac 1 afal.
Rydych chi'n prynu bar mawr o siocled i'w rannu rhyngoch chi a 3 o bobl eraill.Mae pob un ohonoch chi’n cael 4 darn allan o’r bar siocled sy’n cynnwys 16 o ddarnau i gyd.Faint rydych chi wedi'i fwyta fel canran?
Rydych chi wedi chwarae gêm 4 gwaith ac wedi sgorio: 3, 5, 7, 9 pwynt. Beth yw cyfartaledd (cymedr) eich sgoriau?
Rydych chi'n penderfynu pobi pastai.
Mae’r gwiriad rhifedd wedi’i gwblhau
Rydyn ni’n gwybod bod rhifedd yn gallu bod yn her, ond gyda'r sgiliau cywir gallwch chi newid hynny.
Mae llawer o gymorth ar gael i’ch helpu i wella'ch sgiliau sylfaenol mewn rhifedd.
Fe allech chi fod yn gymwys i astudio am ddim, er enghraifft, yn Lloegr os nad ydych chi wedi pasio TGAU mewn mathemateg yn barod (gradd C / 4 neu’n uwch) neu gymhwyster cyfatebol fel Lefel O neu Gymhwyster Sgiliau Gweithredol.
Beth yw ystyr cymwysterau gwahanol
Chwilio am gwrsCymorth y tu allan i Loegr
Bydd Lluosi yn cael ei lansio eleni. Gallwch gofrestru i fod y cyntaf i wybod pan fydd Lluosi yn cael ei lansio.
Mae llawer o gymorth ar gael i'ch helpu i wella'ch sgiliau sylfaenol mewn rhifedd.
Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi ddatblygu’ch sgiliau rhifedd ymhellach, efallai y byddwch yn gymwys i astudio am ddim.
Er enghraifft, yn Lloegr os nad ydych chi wedi pasio TGAU mewn mathemateg yn barod (gradd C / 4 neu’n uwch) neu gymhwyster cyfatebol fel Lefel O neu Gymhwyster Sgiliau Gweithredol